Trip i'r pictiwrs...
- Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwedd pennod yn hanes tref Porthmadog. Ar 25 Chwefror dechreuodd y gwaith o ddymchwel hen sinema'r Coliseum yn y dre.
Mae Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar oes aur y pictiwrs yng Nghymru. Fuoch chi yn bwyta popcorn yn rhai o'r rhain?
Ffynhonnell y llun, BenSalter
Y Washington ym Mhenarth. Cafodd y sinema ei chau yn 1977, ac mae'r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio fel caffi a galeri.
Hon yw sinema hynaf Cymru ym Mrynmawr. Mae hi'n dal i ddangos ffilmiau yn rheolaidd er gwaetha ansicrwydd am ei dyfodol. Agorodd ei drysau am y tro cyntaf yn 1894.
Y Monico, Rhiwbeina. Hon oedd y sinema annibynol olaf yng Nghaerdydd tan iddi hi gael ei chau yn 2003. Bloc o fflatiau moethus sydd ar y safle erbyn hyn.
Cafodd sinema y Palladium yn Llandudno ei hadeiladu yn 1920. Cafodd ei ailwneud, ac ers 2001 mae'r adeilad wedi ei ddefnyddio fel tafarn.
Agorodd The Majestic yng Nghaernarfon yn 1934. Daeth yn glwb nos yn ddiweddarach- yn gyntaf gyda'r un enw, ac yn hwyrach fel 'The Dome'.
The King's Hall oedd canolbwynt i adloniant Aberystwyth o 1933. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel yn 1989.
Roedd yna le i dros 1,700 yn yr Odeon ym Mae Colwyn pan agorodd yn 1936. Cafodd y ffilm olaf ei ddangos yno hanner can mlynedd yn ddiweddarach yn 1986
Roedd sinema Tywyn, Gwynedd, yn cael ei adnabod fel The Assembly Room ers 1893. Mae'r adeilad wedi ei foderneiddio ac erbyn heddiw yn cael ei alw'n The Magic Lantern Cinema.
Ffynhonnell y llun, NickSarebi
Coliseum, Aberhonddu - Dwy sgrin sydd yno erbyn heddiw ac a mae'n dal yn atyniad poblogaidd i bobl yr ardal.
Cartre gofal sydd ar safle Theatre Royal, Y Barri erbyn heddiw. Caeodd y sinema ei drysau am y tro olaf yn 2008.
Y cymunedau glofaol lleol dalodd am y sinema yn Neuadd y Gweithwyr, Bedwas yn 1923, gyd sinema, neuadd ddawns a neuadd snwcer yn y safle. Mae'r adeilad dal yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol a chyngherddau hyd heddiw.
Y Royal Playhouse yn Ninbych y Pysgod. Ar ei hanterth roedd y sinema yn atyniad poblogaidd, yn enwedig ar y pnawniau pan roedd hi'n rhy wlyb i fynd i'r traeth. Caeodd ei drysau am y tro olaf yn 2010.