Carchar i ddyn o Bowys am stelcian awdur o America

  • Cyhoeddwyd
Mark Jury
Disgrifiad o’r llun,
Fe groesodd llwybrau Mark Jury a Kristine Carlson wrth i'r ddau hedfan o LA i Lundain

Mae ffotograffydd priodas o Bowys, a fu'n stelcian awdur Americanaidd lled-adnabyddus am saith mlynedd wedi iddynt gwrdd ar awyren o LA i Lundain, wedi ei garcharu.

Fe glywodd Llys y Goron Merthyr Tydfil sut oedd Mark Jury, 40 oed, o Langatwg, Powys, wedi bod yn poeni Kristine Carlson a'i merch, sydd yn ei harddegau, fyth ers hynny.

Fe ddechreuodd ymddygiad Jury newid wedi i Mrs Carlson, 52 oed, wrthod ymwneud ag o.

Fe gyfaddefodd Jury i ddau achos o stelcian, ac fe'i carcharwyd am bedair blynedd a hanner.

Fe glywodd y llys sut oedd bywyd yr awdur o California wedi troi yn "hunllef" wedi iddi eistedd wrth Jury ar yr awyren o Los Angeles i Heathrow.

Ffynhonnell y llun, Kristine Carlson a Kenna
Disgrifiad o’r llun,
Kristine Carlson a'i merch Kenna (chwith)