Gweinidog: 'Gall y BBC fforddio talu mwy am raglenni'

  • Cyhoeddwyd
ken skates
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mr Skates wrth y pwyllgor cymunedau, cydraddoldeb a llywodraeth leol fod "cyllideb y BBC yn sylweddol", a'i fod yn "gwrthod y syniad" nad ydynt yn gallu dynodi mwy o adnoddau i raglenni Saesneg - sydd ddim yn rhai newyddion.

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Ken Skates wedi dweud ei fod yn "gwrthod y syniad" na all y BBC fforddio talu mwy am raglenni teledu yng Nghymru.

Fe all yr arian gael ei "ailddosbarthu petai'r BBC yn dymuno gwneud hynny", meddai wrth ymchwiliad gan y Cynulliad i Adolygiad Siarter y BBC.

Mae gweinidogion wedi dweud yn y gorffennol fod diffyg "truenus" o raglenni comedi a dramâu gan BBC Cymru yn y Saesneg.

Mae'r BBC wedi dweud eu bod yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig er mwyn cwrdd â disgwyliadau cynulleidfaoedd ar draws y DU.

Yn gynharach ym mis Tachwedd, fe alwodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones unwaith eto ar y gorfforaeth i wario £30m yn ychwanegol ar raglenni i adlewyrchu bywyd Cymreig.

Dim rhaglenni newyddion

Dywedodd Mr Skates wrth y pwyllgor cymunedau, cydraddoldeb a llywodraeth leol fod "cyllideb y BBC yn sylweddol, ac yr wyf yn gwrthod y syniad nad ydynt yn gallu dynodi mwy o adnoddau i raglenni Saesneg - sydd ddim yn rhai newyddion.

"Rwy'n credu y gallai'r arian gael ei ddynodi petai'r BBC yn dymuno gwneud hynny."

Mae'r BBC wedi rhybuddio ei fod yn wynebu "heriau ariannol anodd" yn dilyn setliad ffi'r drwydded ym mis Gorffennaf.

Yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad, fe ailadroddodd Mr Skates alwad Llywodraeth Cymru am adolygiad o ddibenion cyhoeddus y BBC yng Nghymru, i benderfynu cyfrifoldebau'r darlledwr i gynulleidfaoedd Cymreig.

Dywedodd Mr Skates y byddai'n sefydlu panel cyfryngau, i gynnal yr adolygiad o rôl y BBC yng Nghymru os nad yw'r gwaith yn disgyn o dan adolygiad ehangach Llywodraeth y DU ar siarter y BBC.

Mewn cynhadledd cyfryngau yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth y BBC, James Purnell fod y gorfforaeth yn "ymroddedig" i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Mae disgwyl i siarter newydd y BBC gael ei chymeradwyo am y 10 mlynedd nesaf, ym mis Ionawr 2017.