Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn talu iawndal i deulu claf

  • Cyhoeddwyd
bbc

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi talu iawndal i deulu dawnsiwr gafodd ei anfon adre o uned ddamweiniau Ysbyty Maelor Wrecsam ddwywaith yn y diwrnodau cyn iddo farw.

Roedd Jason Langton, 20 oed o Gaer, yn dioddef o haint i'w sinws, ond fe ledodd yr haint yn ddiweddarach i'w ymennydd.

Bum mlynedd wedi'r farwolaeth mae'r bwrdd wedi talu iawndal pum ffigwr i'r teulu. Maen nhw hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb lawn dros farwolaeth Mr Langton.

Dywedodd ei deulu na ddylai Mr Langton fod wedi marw o'r haint.