Tân Prestatyn: Euog o gyhuddiad arall
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor mewn achos yn erbyn landlord o Brestatyn, oedd wedi'i gyhuddo o ddynladdiad pum person wedi tân mewn fflat yr oedd yn berchen arno, wedi cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau.
Yng nghanol yr achos mae Jay Liptrot, 43 oed, wedi pledio'n euog i gyhuddiad llai difrifol o beidio cymryd camau diogelwch tân rhesymol gan adael rhai'n agored i risg.
Ar ôl ystyried hynny'n fanwl a thrafod gyda theulu'r rhai fu farw, mae'r erlyniad wedi derbyn y ple newydd.
Bu farw Lee-Anna Shiers, ei phartner Liam Timbrell, eu mab Charlie Timbrell a nai a nith Ms Shiers Bailey a Skye Allen yn y tân.
Cafodd y tân a'u lladdodd ei gynnau'n fwriadol gan Melanie Smith oedd yn byw yn y fflat ar lawr gwaelod yr adeilad ym Maes y Groes.
Fe'i cafwyd hi'n euog o lofruddio'r pump yn 2013, ac fe gafodd ei charcharu am leiafswm o 30 mlynedd.
Mr Liptrot oedd landlord a fflat, ac roedd yn ddiffoddwr tân gyda 15 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth tân. Ar noson y marwolaethau yn Hydref 2012, roedd yn un o'r diffoddwyr a ymdrechodd yn ddewr o achub y rhai oedd yn yr adeilad.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener, ac fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan hynny ar y ddealltwriaeth bod yr holl ddewisiadau dedfrydu n dal i gael eu hystyried.