Galw am 'ariannu teg' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt

Mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi galw ar y Canghellor i sicrhau "ariannu teg" i Gymru, pan fydd yn cyhoeddi ei adolygiad gwariant yr wythnos nesa.

Dywedodd Jane Hutt ei fod yn "hanfodol" i wariant cyhoeddus.

Fe wnaeth yr alwad mewn araith i arweinwyr cynghorau, pan ddywedodd hefyd y bydd rhaid dod o hyd i £1 biliwn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf er mwyn delio â chanlyniadau poblogaeth sy'n heneiddio a chostau cynyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn darparu "cyllid gwaelodol", wedi ei gynllunio er mwyn amddiffyn Llywodraeth Cymru rhag cael ei gwasgu gan y system sy'n pennu ei chyllideb, sef fformiwla Barnett.

Dywedodd Mrs Hutt wrth BBC Cymru: "Mae'n hanfodol bwysig i ni glywed bod yna gytundeb ar gael ar gyfer ariannu teg i Gymru."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio clywed George Osborne yn cyhoeddi cyllid ar gyfer bargen dinas Caerdydd.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd 10 cyngor a Llywodraeth Cymru eu bod wedi clustnodi cyfanswm o £600m ar gyfer y cytundeb, ac maen nhw'n aros i weld a fydd y Trysorlys yn addo arian cyfatebol.

Heriau ariannol

Mae arweinwyr cynghorau Cymru yn cwrdd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd i drafod yr heriau ariannol i ddod gyda gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews a'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cynghorau Cymru wedi wynebu toriadau i'w cyllidebau o 3.4% ar gyfartaledd yn dilyn y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Am bedair blynedd cyn hynny, roedd gweinidogion wedi rhewi cyllidebau'r awdurdodau lleol.

Eisoes mae arweinwyr cynghorau wedi siarad am doriadau sy'n gorfod digwydd i adrannau heblaw gwasanaethau cymdeithasol (sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol) a gwariant ar ysgolion (sy'n cael ei warchod gan Lywodraeth Cymru).

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagolygon am lefel y toriadau fydd yn wynebu'r cynghorau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dros yr haf dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i flaenoriaethu gwario ar iechyd ac addysg, ond ychwanegodd na fyddai'n medru gwarchod rhag yr hyn a ddisgrifiodd fel "toriadau enfawr" o San Steffan.