Jeremy Corbyn: Y blaid Lafur yn 'unedig'

  • Cyhoeddwyd
CorbynFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Jeremy Corbyn yn ymgyrchu ym "mhob rhan o'r Deyrnas Unedig" y flwyddyn nesaf ac mae wedi mynnu bod ei blaid yn "unedig".

Mae rhai Aelodau Seneddol Llafur wedi bod yn feirniadol o'u harweinydd yr wythnos hon.

Yn ôl yr aelod dros Gaerffili, Wayne David, mae gan Mr Corbyn "gythraul o lot i ddysgu".

Ond awgrymodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod angen i'r aelodau Llafur sy'n feirniadol o Mr Corbyn roi'r gorau iddi.

Roedd Mr Corbyn yn Abertawe ar ei ymweliad cyntaf â Chymru ers ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur.

"Fe fyddai'n ymgyrchu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig - wrth gwrs y byddai'n ymgyrchu yng Nghymru," meddai Mr Corbyn.

"Mae yna gyfle etholiadol y flwyddyn nesaf i Lafur ddangos ein bod yn ennill cefnogaeth a bod y twf yn aelodaeth y blaid, sydd bron yn 400,00 yn golygu rhywbeth ar lawr gwlad."

Mae Mr Jones yn dymuno gweld mwy o annibyniaeth i Lafur Cymru o'r blaid yn ganolog. Yn ymateb i hynny, dywedodd Mr Corbyn: "Rwy'n gefnogol iawn o beth mae Carwyn wedi gynnig, does yna ddim problem o ran hynny.

"Rwy'n edrych ymlaen i'r annibyniaeth yna ddod ger bron, ond yn amlwg mae'n rhaid cytuno ar hynny drwy strwythur y blaid Lafur. Rwy'n arweinydd ar y blaid, nid rheolwr y blaid."