Gwasanaethau brys yn chwilio afon Taf
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio afon Taf yng Nghaerdydd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De fod criwiau o Drelai a Chaerffili wedi eu galw i ddigwyddiad ger pont Wood Street am 15:45.
Mae cwch achub y gwasanaeth tân o'r Barri hefyd wedi bod yn rhan o'r chwilio.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Daw hyn wedi digwyddiad yng Nglyn-nedd yn Sir Castell-nedd Port Talbot yn gynharach, pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw i chwilio afon Nedd. Daeth cadarnhad yn ddiweddarach eu bod wedi dod o hyd i gorff.