System gyllido'n achosi 'mudo 'mennydd'

  • Cyhoeddwyd
graddedigion

Mae system o ariannu myfyrwyr ar draws y DU yn annog "mudo 'mennydd" o Gymru, yn ôl adroddiad newydd.

Fe ddywed yr adroddiad - a gomisiynwyd gan Undeb y Colegau a Phrifysgolion (UCU) - bod mwy o symbyliad i fyfyrwyr o Gymru i astudio mewn rhannau eraill o'r DU, a'u bod yn fwy "gwerthfawr" i brifysgolion yn Lloegr na'u cyfoedion o rannau eraill o Brydain.

Mae myfyrwyr o Gymru yn talu £3,500 cyntaf eu ffioedd dysgu gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r gweddill lle bynnag y maen nhw'n dewis astudio yng ngweddill y DU.

Talu premiwm

Yn ôl adroddiad UCU mae hynny'n golygu bod "trethdalwyr Cymru'n talu premiwm o 9% i alluogi myfyrwyr o Gymru i astudio yn Lloegr, ond mae trethdalwyr Yr Alban yn arbed 44% pan fydd myfyriwr o'r Alban yn dewis Lloegr yn hytrach na'r Alban".

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCU, Sally Hunt: "Mae'r bwlch cyllido arian cyhoeddus sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad hwn yn sylweddol, a bydd yn cael effaith ar gyfleoedd bywyd myfyrwyr a'n heconomi.

"Ar drothwy adolygiad gwariant arall yn San Steffan, rwy'n gobeithio y bydd ymrwymiad clir gan wleidyddion ar draws y DU ymhob cenedl i fonitro, a chau lle bo'r angen, y bylchau mewn gwariant cyhoeddus a nodwyd."

Buddsoddi mewn pobl ifanc

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim wedi gweld yr adroddiad eto, serch hynny, rydym eto'n dweud fod Llywodraeth Cymru wedi dewis amddiffyn myfyrwyr Cymru - ble bynnag y maen nhw'n astudio - rhag y codiadau sylweddol mewn ffïoedd dysgu y penderfynodd Llywodraeth y DU eu cyflwyno.

"Rydym wedi ei gwneud yn glir fod ein polisi ffïoedd dysgu ni'n fuddsoddiad mewn pobl ifanc, ac amgylchiadau'r unigolyn ddylai benderfynu gyda pha sefydliad y maen nhw'n dewis astudio, nid cost y ffïoedd."

"Mae'r adolygiad Diamond i addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn parhau, ac mae wedi casglu tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau. Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi yn 2016 a bydd yn gymorth i fwrw 'mlaen a'r camau nesa o ran ariannu addysg uwch yng Nghymru."