Ymdrechion i symud cyrff dau weithiwr yn parhau
- Cyhoeddwyd

Bydd yr ymdrechion yn parhau ddydd Iau i symud cyrff dau weithiwr a fu farw mewn ffrwydrad yng ngwaith dur Celsa yng Nghaerdydd fore dydd Mercher.
Cafodd pump o bobl eraill eu hanafu yn y ffrwydrad ddigwyddodd ar y safle yn ardal Y Sblot tua 10:30.
Mae'r ymchwiliad i achos y ffrwydrad hefyd yn parhau.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cydymdeimlo a theuluoedd y bobl fu farw.
Adeilad yn ysgwyd
Cafodd y ffrwydrad ei glywed a'i deimlo gan lawer.
Dywedodd dyn busnes lleol ei fod wedi clywed "ffrwydrad mawr ac wedi gweld mwg yn codi".
"Mae 'na lawer o heddlu a sawl injan dân wedi mynd mewn i'r gwaith dur. Mae o leia' un ambiwlans yno."
'Ffrwydrad anferth'
Ychwanegodd: "Roedd yn ffrwydrad anferth, tipyn o beth. Fe ysgwydodd ein hadeilad ni - rydyn ni rhyw 100 - 200 llath o'r safle.
"Roedd 'na fwg trwchus du a llawer ohono."
Dywedodd Helen Vernon, sy'n gweithio mewn meithrinfa agos: "Es i allan a dywedodd PCSO bod ffrwydrad mawr wedi bod. Dyna i gyd oedden nhw'n gallu dweud wrtha i.
"Fe glywson ni glec uchel iawn. Dywedodd cydweithiwr, oedd yn y 'stafell staff, bod y to wedi ysgwyd."