Dyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng car a cherddwr ar ffordd yr A40 rhwng Abergwaun a Threletert tua 18:15 nos Fercher.
Aed a dyn oedd yn cerdded ar y ffordd i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Cafodd gyrrwr y cerbyd hefyd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth.
Mae'r Heddlu'n gofyn i unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu a nhw ar 101.