Toriadau heddlu'n 'esgeuluso' dyletswyddau, medd AS Llafur

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant a'r heddlu

Mae aelod seneddol Llafur yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn "esgeuluso'u dyletswyddau" pe baen nhw'n torri cyllideb yr heddlu gwrthderfysgaeth yn ne Cymru.

Mae AS y Rhondda Chris Bryant yn credu y byddai'r toriadau y mae'r llywodraeth yn eu hystyried yn cynyddu'r bygythiad terfysgol i ddigwyddiadau chwaraeon pwysig yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Yn siarad yn San Steffan, rhybuddiodd y byddai'r risg o radicaleiddio yn y dinasoedd yn cynyddu.

Dywedodd y Swyddfa Gartref wrth Cymru Fyw eu bod wedi diogelu cyllideb yr heddlu gwrthderfysgol, a'u bod yn addo ei warchod yn yr adolygiad gwariant presennol.

Peryglon radicaleiddio

Er addewidion y llywodraeth, mae Mr Bryant yn bryderus am doriadau i gyllid Heddlu De Cymru.

Mae'n honni fod 284 o swyddi eisoes wedi'u torri o fewn y llu, a bod disgwyl i 300 arall ddiflannu hefyd.

Ddechrau'r flwyddyn, mewn trafodaethau â chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig yng Nghaerdydd, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod aelodau o gymunedau Mwslimaidd Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe'n cael eu radicaleiddio.

Dywedodd Mr Bryant: "Dyletswydd gyntaf llywodraeth yw diogelu'r bobl - oni ddylai'r frawddeg hon wneud i'r llywodraeth ailystyried y toriadau i Heddlu De Cymru?

"Mewn cyfnod pan fo Ysgrifennydd Cymru yn cydnabod peryglon radicaleiddio a phan fo Caerdydd ac Abertawe'n cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn aml, byddai'r llywodraeth yn esgeuluso'u dyletswyddau pe baen nhw'n torri cyllidebau'r heddlu i'r graddau ag y maen nhw'n ei awgrymu."

'Camau angenrheidiol'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r llywodraeth yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau fod gan asiantaethau ym meysydd y gyfraith, diogelwch a chudd-ymchwil y pwerau, y gallu a'r adnoddau y maen nhw eu hangen.

"Ers 2010, mae'r Llywodraeth wedi cwblhau gwaith sylweddol i gryfhau ein ymateb i'r bygythiad terfysgol, gan gynnwys diogelu cyllideb yr heddlu gwrthderfysgol. Rydyn ni hefyd wedi cadarnhau y bydd ein gwariant gwrth-derfysgol ar draws y llywodraeth yn parhau i gael ei warchod yn yr adolygiad gwariant presennol.

"Ni fydd penderfyniadau ehangach ar gyllid yr heddlu yn cael eu gwneud tan adroddiadau'r adolygiad gwariant ac mae trefniadau rheoli adnoddau'n fater i Brif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd."