Gwobr am ymchwil iechyd meddwl 'drawsnewidiol'
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ei gwobrwyo am ei gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl.
Cafodd Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg wobr Pen-blwydd y Frenhines am ddarganfod "gwybodaeth drawsnewidiol am achosion salwch meddwl, ei ddiagnosis a'r driniaeth ar ei gyfer".
Caiff y wobr ei roi i sefydliad academaidd neu alwedigaethol bob dwy flynedd.
Nod y ganolfan yw ymchwilio i achosion anhwylderau seiciatrig difrifol a cheisio gwella'r ddealltwriaeth o achosion y clefydau.
Ers dechrau ymchwilio, mae'r ganolfan wedi darganfod cysylltiad genetig rhwng anabledd deallusol, awtistiaeth, ADHD a sgitsoffrenia, darganfod y ffactorau genetig all achosi salwch meddwl, yn ogystal â darganfod genynnau all greu risg o glefyd Alzheimer.
Dywedodd Cyfarwyddwr y ganolfan, yr Athro Syr Michael Owen: "Mae eu hymdrechion wedi llwyddo i daflu goleuni ar rai o gorneli tywyllaf salwch meddwl a'n rhoi mewn sefyllfa gref i wneud cynnydd pellach fydd yn rhoi manteision sylweddol i gleifion."