Llofruddiaeth Pontypridd: Carchar am oes i Christopher May

  • Cyhoeddwyd
Christopher MayFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae cyn gigydd wnaeth lofruddio dynes a thorri ei chorff yn ddarnau wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.

Bydd Christopher May, 50, dan glo am o leiaf 28 o flynyddoedd am ladd Tracey Woodford, 47, fis Ebrill y llynedd.

Ni ddangosodd unrhyw emosiwn wrth gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd wedi gwadu llofruddio Ms Woodford, ond fe benderfynodd y rheithgor yn unfrydol ei fod yn euog ar ôl ystyried eu dyfarniad am 55 munud.

'Creulon, caled a phenderfynol'

Dywedodd Mrs Ustus Nicola Davies bod May yn ddyn peryglus ac efallai na fyddai'n cael ei ryddhau o gwbl.

"Roedd llofruddiaeth Tracey Woodford yn greulon, caled a phenderfynol," meddai.

"Yr un nodweddion wnaeth eich cymell i dorri corff Tracey yn ddarnau a'i guddio yn fwriadol.

"Fe wnaethoch chi hyn am un rheswm, i osgoi cael eich dal am lofruddiaeth yr oeddech yn gwybod eich bod wedi cyflawni."

'Byw mewn hunllef'

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd gweddillion Tracey Woodford eu darganfod ym mis Ebrill
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Daeth yr heddlu o hyd i ran o gorff Ms Woodford mewn draen
Ffynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhannau o'i chorff hefyd yn ystafell ymolchi Christopher May

Mewn datganiad, dywedodd mam Ms Woodford ei bod yn "byw mewn hunllef".

Dywedodd Linda Woodford: "Mae o wedi rhwygo ein teulu yn ddarnau. Mae o wedi ein dinistrio ni."

Roedd May wedi honni ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun, neu ei fod wedi colli rheolaeth ar noson y llofruddiaeth.

Ond dywedodd yr erlyniad bod cymhelliad rhywiol i'r ymosodiad.

Cafodd rhannau o gorff Ms Woodford eu darganfod yn fflat May, tra ei fod o hefyd wedi cuddio rhannau o amgylch tref Pontypridd.

Fe wnaeth Mrs Ustus Davies ganmol teulu Ms Woodford am eu "dewrder ac urddas" yn ystod yr achos.