Beirniadu cynnydd yng nghost trydaneiddio'r rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Trydaneiddio rheilffordd

Mae grŵp o ASau wedi beirniadu'r hyn maen nhw'n ei alw'n gynnydd "syfrdanol ac aruthrol" yn y gost o drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cyhuddo Network Rail o fethiannau cyllidebol a chynllunio sydd wedi achosi oedi allai ddyblu'r gost.

Mae hi bron yn bum mlynedd ers i'r llywodraeth gymeradwyo'r cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru.

Ond yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r amcan gost wedi cynyddu o £1.6bn i £2.8bn - a dyw hynny heb gynnwys yr estyniad i Abertawe.

Mae'r adroddiad yn dweud bod y cynnydd yn "syfrdanol ac aruthrol" a bod y cynllun yn annhebygol o fod yn barod ar amser erbyn 2018.

Mae'r ASau yn dweud y bydd yr oedi yn rhoi arian cyhoeddus mewn perygl am y bydd rhaid i'r adran drafnidiaeth dalu hyd at £400,000 pob diwrnod i rentu trenau newydd na fydd yn cael eu defnyddio nes i'r rheilffordd gael ei drydaneiddio.