Trydydd ymgynghoriad ysgolion Sir Benfro yn bosib
- Cyhoeddwyd

Gall ymgynghoriad dadleuol ar ad-drefnu ysgolion yn Sir Benfro orfod cael ei ddechrau am y trydydd tro.
Mae'r Cynghorydd Huw George, aelod o'r cabinet, wedi cadarnhau bod cyfarfod cyffredinol wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf i drafod ymgynghoriad newydd.
Mae BBC Cymru yn deall bod Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion, yn bwriadu dod a'r ymgynghoriad presennol i ben oherwydd pryder y gallai fod yn agored i her gyfreithiol.
Bydd hi'n cynnig ailddechrau'r ymgynghoriad yn dilyn trafodaethau gydag Ysgol Tasker Milward ac Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd.
Mae'r elusen sy'n berchen yr ysgolion wedi bod yn anhapus gyda chynlluniau i uno'r ysgolion.
Roedd cynllun i agor ysgol gyfrwng Gymraeg yn y dref, gyferbyn a safle Ysgol Syr Thomas Picton.
Straeon perthnasol
- 22 Ionawr 2015
- 23 Mawrth 2015