Ysgol Gymraeg Casnewydd: Dim pryder ynghylch yr oedi
- Cyhoeddwyd

Does gan y mudiad Rhieni dros addysg Gymraeg (Rhag) ddim pryderon ynghylch yr oedi yn y gwaith o adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yng Nghasnewydd medd y mudiad.
Mae'r gohiriad yn golygu y bydd rhaid i rai plant gael eu haddysg mewn ysgol gynradd gyfagos am flwyddyn academaidd lawn.
Bydd yr ysgol uwchradd Gymraeg newydd ar Dyffryn Way yn agor ar 1 Medi, 2016.
Ond o ganlyniad i "newid mewn amodau amgylcheddol", mae gwaith ychwanegol angen ei wneud ar y safle.
Mae hyn yn effeithio ar y gallu i gyflwyno'r cwricwlwm llawn i ddisgyblion.
Bydd rhai plant felly'n rhannu Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon fel lleoliad dros dro am flwyddyn academaidd 2016/2017.
Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Dyffryn am symud o fod yn defnyddio'r tri bloc presenol ar y safle i ddefnyddio dau yn unig.
Mae hynny am greu lle ar gyfer ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i 900 o ddisgyblion yn yr adeilad gwag.
'Ymdrin â'r sefyllfa'
Mynnodd Elin Maher, cadeirydd corff llywodraethol dros dro'r ysgol uwchradd newydd nad oedd ganddi unrhyw bryderon ynghylch yr oedi.
Dywedodd Ms Maher, sydd hefyd yn is-gadeirydd Rhag, eu bod nhw'n "delio a cydymffurfio gyda'r cyngor" ac yn "ymdrin â'r sefyllfa".
Bu cyfarfod rhwng 70 o rieni a'r corff llywodraethol nos Fercher i drafod yr oedi. Ond doedd Ms Maher ddim yn fodlon dweud oedd rhieni wedi codi pryderon.
Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys disgyblion o Gasnewydd a de Mynwy.
Mae Cyngor Casnewydd wedi cadarnhau y bydd disgyblion yn cychwyn yn yr ysgol Gymraeg newydd yn y ddinas yn Medi 2016.
Ond dywedodd llefarydd: "Roedd yr amserlen i gwblhau'r datblygiad ar y safle wastad am fod yn dynn iawn. Er gwaethaf yr ymdrechion ni fydd yr adeilad yn Dyffryn yn cael ei gwblhau nes flwyddyn yn ddiweddarach.
"Fe fydd gweithredu'r cwricwlwm llawn yn bosib ar leoliad dros dro gan weithio gyda phrifathro Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon.
"Mae ysgol newydd y corff llywodraethol yn gweithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd er mwyn ceisio sicrhau na fyddai tarfu ar y cwricwlwm llawn wrth iddo gael ei weithredu o ysgol newydd o'r safle ar Dyffryn Way."