Ymosod ar Syria: Plaid Cymru yn barod i wrando
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn barod i wrando ar yr achos o ymestyn ymosodiadau o'r awyr i Syria.
Ond rhybuddiodd Leanne Wood bod angen cynllun ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig cyn gweithredu.
Mae Plaid Cymru yn y gorffennol wedi bod yn erbyn ymyrraeth filwrol gan Brydain, gan gynnwys goresgyn Irac yn 2003.
Mewn cyfweliad â Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Wood nad oedd ei phlaid wedi ei hargyhoeddi hyd yma.
Ond fe fyddai yn "gwrando'n ofalus" ar gynigion David Cameron, ychwanegodd.
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol yn erbyn gweithredu milwrol yn Syria ddwy flynedd yn ôl. Mae'r Prif Weinidog eisiau bod yn hyderus o ennill pleidlais cyn mynd a'r mater yn ôl i Dy'r Cyffredin.
Angen 'cynllun'
"Rwy'n credu y byddai angen nifer o brofion angen cael eu pasio cyn ein bod wedi ein hargyhoeddi na fyddem yn wneud yr un camgymeriadau a wnaethom nôl yn 2003," meddai Ms Wood.
"Mae hi'n anodd iawn trafod hypotheticals. Yn amlwg, mae caniatâd yr UN yn rhywbeth sy'n bwysig i ni, ond dyw ddim yr unig beth.
"Byddai angen i ni edrych ar ryw fath o gynllun er mwyn sicrhau bod 'na bwynt terfyn. Byddwn yn hoffi cael fy modloni bod yna ryw fath o ddiffiniad o beth ydi llwyddiant, a beth fyddai'r cynllun heddwch."
Fe all cefnogaeth gan dri Aelod Seneddol Plaid Cymru yn fod yn bwysig i bleidlais oherwydd mwyafrif bychan y Ceidwadwyr o 12 yn y Senedd.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn gynharach yn wythnos ei bod yn barod i wrando ar gynigion David Cameron hefyd.
Sunday Politics Wales, BBC1 Wales, 11:00 ddydd Sul.