Monk: Abertawe'n 'benderfynol' er y sïon am ei ddyfodol
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Abertawe Garry Monk yn dweud fod y tîm yn "benderfynol" o "wneud yn iawn" am eu canlyniadau gwael diweddar cyn y gêm allweddol yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn.
Dim ond unwaith mae'r Elyrch wedi ennill yn eu naw gêm ddiwethaf, ac mae adroddiadau yn y wasg yn awgrymu fod dyfodol Monk yn y fantol.
Ond mae'r rheolwr yn dweud fod y garfan yn "unedig" ac yn mynnu mai "dylanwadau allanol" sy'n gyfrifol am y sïon am ei ddyfodol.
"Mae'n bwysig ein bod yn dangos ein undod, ein cymeriad a'n cryfder, ac mae hynny'n dod gen i a'r chwaraewyr," meddai Monk.
"Dyna'n union rydw i wedi'i weld yn y pythefnos ers ein gêm ddiwetha' yn erbyn Norwich.
"Maen nhw wedi bod yn hyderus a phenderfynol yn yr ymarferion yr wythnos hon a dyna beth fydden nhw'n ddangos ddydd Sadwrn."
'Y trywydd iawn'
Mae gan Monk garfan lawn i ddewis ohoni ar gyfer y gêm gyntaf ers yr egwyl am gemau rhyngwladol, ac mae posib y bydd Leon Britton, Wayne Routledge ac Eder yn dychwelyd i'r unarddeg wrth iddyn nhw geisio esgyn yn y tabl.
Ar y funud maen nhw'n y 14eg safle, gyda phum pwynt yn fwy na Bournemouth, sy'n 18ed.
Mae cefnwr chwith Cymru ac Abertawe, Neil Taylor, yn dweud fod y chwaraewyr wedi bod yn "gweithio'n galed" ac eu bod yn barod i wynebu'r Cherries.
Yn y Gwobrau Pêl-droed Asiaidd nos Iau, ble enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn, dywedodd Taylor fod y garfan wedi "ymarfer yn dda am ein bod ni'n gwybod ein bod rhaid ennill y penwythnos yma."
Ond ychwanegodd fod y sefyllfa bresennol yn "normal" a nad ydi'r chwaraewyr wedi'u heffeithio gan y straeon am eu rheolwr.
"Mewn sefyllfa fel hyn, 'dyn ni'n gwneud be' 'dyn ni'n wneud fel arfer - cloi'n hunain fewn a chanolbwyntio ar bêl-droed," meddai.
"'Dyn ni ddim yn poeni am y byd tu fas na'r hyn mae'r wasg yn ei ddweud.
"Mae'n allweddol ein bod ni'n cario 'mlaen a gwneud yr hyn 'dyn ni'n ei wneud yn Abertawe - rhoi pethau nôl ar y trywydd iawn."