Cyhuddo cyn blismon o dreisio
- Cyhoeddwyd

Bydd cyn dditectif gyda Heddlu De Cymru yn wynebu dau gyhuddiad o dreisio dwy fenyw.
Fe fydd Jeffrey Davies, 44, yn ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ar ddydd Llun, 23 Tachwedd.
Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn erbyn menywod yn 2002 a 2003 pan oedd Mr Davies yn dditectif gwnstabl gyda'r llu. Nid yw bellach yn blismon.
Cafodd ymchwiliad i'r honiadau ei gynnal gan Heddlu De Cymru, ac yn cael ei reoli gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.