Symud adran o'r llywodraeth i'r gogledd?

  • Cyhoeddwyd
andrew rt daviesFfynhonnell y llun, PA

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn addo symud un o brif adrannau Llywodraeth Cymru i'r gogledd os fydd ei blaid mewn grym wedi Etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Fe fydd Andrew RT Davies yn siarad mewn fforwm polisi'r blaid Geidwadol yn Llandudno fore Sadwrn, ac mae disgwyl iddo ddweud bod rhaid i "obsesiwn Llafur gyda Chaerdydd a'r de ddod i ben".

Bydd yn cyhuddo Llafur o feithrin diwylliant "ni a nhw", ac fe fydd hefyd yn dweud y byddai llywodraeth Geidwadol yn y Senedd yn "trafod gyda gweision sifil er mwyn sicrhau bod y gwaith - y penderfyniadau a churiad calon un adran o'r llywodraeth - yn symud yma".

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi addo sefydlu swydd Gweinidog Gogledd Cymru mewn cabinet Geidwadol ym Mae Caerdydd, gan ddweud y byddai'r person yna'n gyfrifol am wrando ar farn pobl y gogledd a'u leisio ar fwrdd y cabinet.

Fe fydd hefyd yn son am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda phwyslais ar y gogledd yn dilyn trafferthion diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae disgwyl i Mr Davies ddweud: "Fe fydd GIG gogledd Cymru dan fesurau arbennig ar ddwy flynedd, ac eto mae'r Prif Weinidog nawr yn awgrymu bod angen rhannu Betsi {y bwrdd iechyd}... beth am farn gogledd Cymru?

"Pryd mae cymunedau yma'n cael dweud eu dweud?

"Byddai llywodraeth Geidwadol Gymreig yn cyflwyno Comisiynwyr Iechyd wedi'u hethol yn uniongyrchol... yn gyfrifol am berfformiad y GIG a safonau gofal, ac yn atebol i chi."

Bydd hefyd yn dweud bod Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru (Edwina Hart) wedi gwrthod tri gwahoddiad i ddod i'r gogledd i gwrdd ag aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a bod y bwrdd i gyd wedi gorfod teithio i'r de i'w chyfarfod hi.

"Dylai llywodraeth fod dros Gymru gyfan," medd Mr Davies.

Bydd Fforwm Polisi Ceidwadwyr Cymru'n cael ei gynnal yng Ngwesty'r Imperial yn Llandudno ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd.