Cannoedd yn gorymdeithio yn Llangefni
- Cyhoeddwyd

Rali "i ddathlu amrywiaeth" yn Llangefni
Bu cannoedd o bobl yn gorymdeithio yn Llangefni wrth i ddwy garfan gynnal rali yng nghanol y dref.
Roedd nifer o ffyrdd a meysydd parcio yng nghau wrth i'r heddlu gadw trefn ar y sefyllfa.
Yn gyntaf, bu tua 350 yn cerdded trwy ganol y dref er mwyn "dathlu amrywiaeth."
Roedd baneri Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn flaenllaw yn y dorf.
Yn hwyrach bu grŵp arall sy'n galw'u hunain yn 'Infidels of north Wales' yn gorymdeithio. Roedd tua 60 o'u cefnogwyr yno.
Roedd yr Aelod Seneddol Llafur Albert Owen ymhlith y gorymdeithwyr yn "dathlu amrywiaeth."
Roedd 80 o swyddogion Heddlu'r Gogledd yn bresennol ac roedd y protestiadau yn sgwar y dref yn swnllyd ond heddychlon wrth i aelodau o'r ddwy garfan wynebu ei gilydd.
Y gwrthdystwyr yng nghanol y dref