Rhybudd am rew i deithwyr

  • Cyhoeddwyd
rhew

Mae teithwyr wedi cael rhybudd i ddisgwyl amodau gyrru anodd fore Sadwrn oherwydd y posibilrwydd o rew ar y ffyrdd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai iâ aros ar y ffyrdd wedi noson oer o eira, yn enwedig ar dir uchel.

Daeth y rhybudd fel rhan o un arall am wyntoedd cryfion a gyhoeddwyd ddydd Gwener, ac sy'n aros mewn lle am 15:00 brynhawn Sadwrn.

Ddydd Mawrth, fe gollwyd y cyflenwad trydan i dros 7,500 o gartrefi a busnesau ar draws Cymru oherwydd Storm Barney.