Archesgob Cymru: 'Angen gwahardd taro plant'
- Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru yn galw ar yr awdurdodau yng Nghymru i wahardd taro plant.
Yn gynharach eleni, pleidleisiodd aelodau'r Cynulliad yn erbyn cynlluniau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni daro'u plant.
Mae'r gyfraith ar y funud yn rhoi'r hawl i oedolion daro rhywun sy'n llai o faint na nhw, os yw'n "gosb briodol."
Ond mae galw ar y gwleidyddion yn y Senedd i ail-ystyried y mater.
'Annerbyniol'
Dywedodd Archesgob Cymru Dr Barry Morgan ei fod yn cefnogi ymgyrch Comisiynydd Plant Cymru, sydd eisiau gweld y gyfraith yn newid.
"Yn yr un ffordd ag y mae hi'n annerbyniol i oedolyn daro oedolyn arall, dylai ei bod hi'n annerbyniol i daro plentyn - os nad mwy annerbyniol, gan fod plentyn yn fwy bregus," meddai.
"Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i roi diwedd ar sefyllfa ble mae'r math cyffredin hwn o drais yn dderbyniol yn ddiwylliannol a'n gyfreithiol."
Daw sylwadau'r Archesgob ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant, ac mae'n adleisio sylwadau'r comisiynydd, Dr Sally Holland.
Dywedodd Dr Holland fod angen hyrwyddo "agwedd bositif" ymysg rhieni.
"Mae rhai'n dweud y dylen ni addysgu pobl yn lle newid y gyfraith, ond mae'r dystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu y dylen ni wneud y ddau," meddai.
"Mae ymdrechion i hyrwyddo agwedd bositif ymysg rhieni cael eu tanseilio gan y sefyllfa gyfreithiol bresennol."
'Dadleuon da'
Mewn dadl yn y Senedd fis Mawrth, fe wnaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews gydnabod fod "dadleuon da" o blaid newid y gyfraith.
Ond ychwanegodd: "Mae'r llywodraeth wedi bod yn glir mai nad y mesur hwn yw'r lle i gael y drafodaeth hon."
Cafodd diwygiad i'r mesur ei wrthod gan y Cynulliad o 36 pleidlais i 16.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd y gyfraith yn newid cyn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.