Cyn-blismon yn y llys ar gyhuddiad o dreisio
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-dditectif gyda Heddlu'r De wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ddau achos o dreisio.
Roedd Jeffrey Davies, 44 oed o Aberdâr, yn ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd fore Llun.
Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn 2002 a 2003 pan oedd Mr Davies yn dditectif gwnstabl gyda'r llu. Nid yw'n blismon bellach.
Fe wnaeth Mr Davies gadarnhau ei fanylion, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.
Cafodd ymchwiliad i'r honiadau ei gynnal gan Heddlu De Cymru, ac yn cael ei reoli gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.