Paratoi i ail-agor canolfan hamdden Nova Prestatyn
- Cyhoeddwyd

Mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud wrth i ganolfan hamdden Nova ym Mhrestatyn ail-agor ei ddrysau.
Mae'r ail-ddatblygiad £4.4m wedi trawsnewid y ganolfan ac wedi creu 30 o swyddi newydd.
Bydd yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd ddydd Llun.
Mae'r Nova wedi cael ei ail-ddatblygu gan Gyngor Sir Ddinbych a'i bartneriaid hamdden, Alliance Leisure.
Ymhlith y cyfleusterau newydd yno mae ystafell ffitrwydd a chaffi. Hefyd mae unedau adwerthu, lle chware i blant a sawl stiwdio amlbwrpas.
Mae'r cynllun hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys ailwampio'r bloc toiledau cyhoeddus ynghyd â gwelliannau i ardal y promenâd.
Mae pwll nofio 25 metr a phwll nofio bach yno hefyd.
Swyddi newydd
Mae'r datblygiad wedi creu dros 30 o swyddi yn y Nova a chyfleusterau hamdden eraill ar draws Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Hamdden: "Mae hon yn foment hanesyddol i Sir Ddinbych ac ar gyfer yr hyn sydd i'w gynnig o ran hamdden ar yr arfordir. Rydym wedi cyflawni ein haddewid i ddarparu cyfleuster hamdden ac atyniad o'r radd flaenaf ar yr arfordir, ac rydym yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd.
"Y Nova yw un o'r buddsoddiadau mwyaf gan y Cyngor yn yr ardal yn y cyfnod diweddar. Rydym yn cydnabod gwir werth y cyfleusterau proffesiynol ar gyfer iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr. Dyna pam roedd y Cyngor yn hyderus i fuddsoddi mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol."
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: "Mae hwn yn brosiect blaenllaw i Sir Ddinbych. Mae wedi bod yn brosiect uchelgeisiol yr ydym wedi'i gynnal mewn modd penderfynol, gan ein bod yn cydnabod potensial mawr yr hen Nova, gyda'r buddsoddiad a'r weledigaeth gywir.
"Er y bydd ymwelwyr ymhlith ein cynulleidfa darged, mae hwn hefyd yn gyfleuster ac yn atyniad i bobl leol. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan y gymuned leol cyn ac yn ystod y gwaith adeiladu a byddem wrth ein bodd yn gweld pobl leol yn dod a chefnogi'r Nova. Ni fyddant yn cael eu siomi".