Tân yng Ngharchar Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Garchar Abertawe yn dilyn adroddiadau o dân.
Fe gafodd y gwasanaethau tân ac ambiwlans eu galw i'r carchar tua 17:55 ddydd Gwener.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi anfon nifer o griwiau a bod dau garcharor wedi cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai bod staff wedi "ymateb yn gyflym er mwyn diffodd y tanau, ac nid oedd unrhyw aelod o'r staff wedi eu hanafu."