Gwasanaethau brys yn achub tri

  • Cyhoeddwyd
timau achub

Cafodd tri dyn eu cludo i'r ysbyty â anafiadau difrifol ar ôl i'w cerbyd ddisgyn 60 metr ar lethr ar gyrion pentref Maesyfed ger Llandrindod.

Bu tri cherbyd mewn gwrthdrawiad wrth yrru oddi ar y ffordd tua 0255 fore Sadwrn. Fe ddisgynnodd Land Rover 60 metr mewn gyli yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd tri dyn eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w cefn, ac yn dioddef o effaith oerfel.

Yn dilyn y digwyddiad bu 60 o swyddogion o'r gwasanaethau brys yn cynorthwyo gan gynnwys timau achub mynydd, a'r gwasanaeth tân ac achub.

Meddai Mark Jones o dîm Achub Mynydd Aberhonddu "maen nhw'n lwcus i fod yn fyw".

Yn ol Mr Jones fe aeth y Land Rover dros ffens ac fe ddisgynnodd 60 metr ar lethr serth.

Fe gymerodd hi dros chwe awr i'r dynion gael eu hachub.

Cafodd dau o'r dynion eu cludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd mewn hofrennydd ac mae'r dyn arall yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Henffordd.

Roedd 10 o deithwyr o ardal Birmingham yn teithio gyda'i gilydd mewn 4 cerbyd ar lwybr mynydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,
Aelod o'r tim achub yn archwilio gweddillion y cerbyd