Abertawe 2-2 Bournemouth

Mae Abertawe wedi achub pwynt hollbwysig ar ôl brwydro 'nôl yn erbyn Bournemouth yn stadiwm Liberty.
Sgoriodd yr ymwelwyr ar ôl 10 munud- camgymeriad amddiffynnol yn arwain at gôl gan Josh King.
Fe ddaeth ail gôl Bournemouth chwarter awr yn ddiweddarach - Dan Gosling ag ergyd o 10 metr.
O fewn eiliadau roedd Abertawe wedi taro nôl - Andre Ayew yn twyllo'r golwr gydag ergyd o'i sawdl.
Yna fe ddaeth cic o'r smotyn i Abertawe - Jonjo Shelvey yn sgorio ar ôl i Ayew ddisgyn yn y cwrt cosbi.
Cyn y gic gyntaf fe gododd y dorf i'w traed i ganu La Marseillaise mewn arwydd o gefnogaeth i bobl Ffrainc yn dilyn erchyllterau ymosodiadau Paris.