Derby 2-0 Caerdydd
- Published
image copyrightRex Features
Mae'r bwlch rhwng Caerdydd a'r timau sy'n anelu at ddyrchafiad yn cynyddu ar ôl i dîm y brifddinas golli yn Derby.
Roedd goliau gan George Thorne ac Andreas Weimann yn ddigon i sicrhau'r pwyntiau i Derby, sydd yn codi i'r pedwerydd safle.
Roedd ymdrechion creadigol Caerdydd o flaen y gôl yn brin - wrth i ymosodwyr Caerdydd gael prynhawn rhwystredig arall.
Mae Caerdydd yn nawfed yn y tabl heno gyda 25 pwynt. Dim ond a 17 maen nhw wedi sgorio y tymor hwn - ac mae'n ymddangos fod angen i Russell Slade arwyddo ymosodwr newydd ar frys.