Cwpan Her Ewrop: Castres 32-29 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Dreigiau wedi colli brwydr agos a chyffrous yn erbyn Castres yn Ffrainc.
Sgoriodd Daniel Kirkpatrick a Geoffrey Palis gais yr un yn yr hanner cyntaf, cyn i'r Dreigiau ymateb yn rymus ar ôl yr egwyl.
Fe aeth y Dreigiau ar y blaen 26-17 ar ôl i Carl Meyer ac Elliot Dee sgorio.
Ond methiant oedd ymdrech ddewr y Dreigiau wrth i Thomas Combezou ac Alex Tulou sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws i'r tîm cartref.