Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 12 - 29 Racing 92

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd pedwar cais hanner cyntaf yn ddigon i chwalu'r Scarlets yn Llanelli.

Fe gafodd Racing 92 fuddugoliaeth glir - a phwynt bonws - diolch i bedwar cais gan Machenaud, Rokocoko, Masoe a Andreu.

Cafodd y Scarlets gyfnodau gwell yn hwyr yn y gêm ar ôl i flaenasgellwr yr ymwelwr Bernard Le Roux gael cerdyn coch dadleuol.

Sgoriodd Aled Thomas a Lewis Rawlins gais yr un, ac roedd Racing yn chwarae a 13 dyn am gyfnod ar ôl i Ben Tameifuna gael ei ddanfon i'r gell cosb.

Ond erbyn hynny roedd Racing eisoes wedi ennill y gêm gyda'u chwarae creadigol a phendant yn yr hanner cyntaf.