Gwrthdrawiad Corwen: Marwolaeth pedwar

corwen Image copyright Google

Bu farw tri dyn ifanc o ardal Corwen, a dyn o ardal Glannau Mersi, mewn gwrthdrawiad ar y A5.

Roedd y dynion a fu farw yn teithio ar yr A5 ger Corwen tua 1140 dydd Sadwrn. Bu Vauxhall Astra mewn gwrthdrawiad â Vauxhall Zafira.

Roedd y tri dyn ifanc o ardal Corwen yn teithio yn y car Astra, a bu farw'r tri yn y fan a'r lle.

Cafodd dau ddyn o ardal Glannau Mersi a oedd yn teithio yn y Zafira, eu cludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke a bu farw un ohonynt yno.

Mae teuluoedd y rhai a fu farw wedi cael eu hysbysu.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dyma'r ail ddigwyddiad difrifol yn yr ardal yn ddiweddar. Dydd Gwener bu farw gwraig yn ei hwythdegau ar ôl gwrthdrawiad ar yr A5 ar y sgwar yng Nghorwen.