Damwain angheuol ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn chwilio am dystion yn dilyn marwolaeth gyrrwr ar draffordd yr M4 ger Gellifedw, Abertawe.
Fe ddigwyddodd gwrthdrawiad rhwng cyffordd 44 (Gellifedw) a 45 (Ynysforgan) ar gyrion y ddinas.
Caewyd y ffordd am 5 awr yn dilyn y digwyddiad.
Roedd y dyn a fu farw yn gyrru Ford Focus ac roedd e'n gyrru tua'r dwyrain ar y draffordd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.