Gwasanaethau achub yn gadael y safle gwaith dur

  • Cyhoeddwyd
celsaFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae'r gwasanaethau achub wedi cwblhau eu gwaith ar safle gwaith dur Celsa yng Nghaerdydd, lle y bu farw dau weithiwr dydd Mercher.

Cafwyd hyd i gyrff dau ddyn a fu farw yn dilyn ffrwydrad yno.

Roedd Peter O'r Brien yn 51 oed ac yn byw yn Llanisien, Caerdydd. Roedd Mark Sim yn 41 oed ac yn hanu o Gil-y-Coed, Gwent.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau i achos y ffrwydrad, ar y cyd a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Stephen Jones bod y gwasanaethau brys "wedi gweithio o dan amgylchiadau anodd iawn".