Gwrthdrawiad Corwen: Tri fu farw wedi'u henwi'n lleol
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 yng Nghorwen
Mae tri o'r pedwar o ddynion fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Ddinbych wedi eu henwi'n lleol.
Bu farw Jacob Hocking, Jackson Edwards ac Adam Richards - y tri yn ddynion lleol - yn y gwrthdrawiad ar yr A5 yng Nghorwen am tua 11:40 ddydd Sadwrn.
Roedd y tri yn teithio mewn car Vauxhall Astra, tra bo dyn o Lannau Mersi oedd yn teithio mewn car arall wedi marw yn hwyrach yn yr ysbyty.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar dystion gysylltu â'r llu.
Roedd plismyn yn awyddus i siarad â dynes oedd yn gyrru car bach, coch, a dau o bobl oedd mewn cerbyd 4x4 du oedd wedi helpu yn dilyn y digwyddiad.