Achos heddlu: Plismon wedi dwyn o'r blaen
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed fod cyn-heddwas sydd wedi'i gyhuddo o ddwyn arian o sêff yn ystod cyrchoedd heddlu wedi cael ei ddal yn dwyn ar achlysuron eraill.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun fod y Ditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, wedi cael ei ddiswyddo ar ôl dwyn arian mewn "prawf hygrededd" y llynedd.
Mae Mr Phillips yn gwadu dwyn o dai ym Mhenlan, Abertawe, yn dilyn cyrchoedd gwrth gyffuriau ym mis Ebrill 2011.
'Prawf hygrededd'
Ar 4 Mawrth 2014, mewn sefyllfa oedd wedi'i threfnu o flaen llaw, cafodd Phillips ei ffilmio'n dwyn £240 o gôt a £10 o gwpwrdd.
Yr un prawf, daeth swyddog arall o hyd i focs esgidiau gyda £21,000 ynddo, a dywedodd Phillips y dylen nhw dynnu llun o'r bocs a'i gadw fel tystiolaeth.
Yn dilyn hynny, cafodd ei glywed yn dweud wrth swyddog arall: "Doedd gen i ddim cyfle, nag oedd?"
Plediodd yn euog i gyhuddiad o ddwyn, a cafodd ei ddiswyddo gan Heddlu De Cymru.
Clywodd y rheithgor hefyd fod arian gwerth £8,100 wedi'i ddwyn o sêff yng ngorsaf heddlu Penarth. Hwn oedd yr arian gafodd ei gymryd o sêff Nathan Luben yn ystod y cyrchoedd gwrth gyffuriau.
Mae'r ymchwiliad i'r lladrad yma'n parhau.
Dieuog
Yn yr un achos fore Llun, cafwyd y Ditectif Gwnstabl Christopher Evans yn ddieuog o ddwyn arian o ddwy sêff.
Fe wnaeth y barnwr Eleri Rees roi cyfarwyddyd i'r rheithgor i gael Mr Evans yn ddieuog o'r ddau gyhuddiad.
Mae'r achos yn erbyn Stephen Phillips a'r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 oed o Lyn-nedd, yn parhau.
Mae Mr Phillips yn gwadu dau gyhuddiad o ddwyn ac mae Mr Stokes yn gwadu tri chyhuddiad.