Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio perthynas swyddogion
- Cyhoeddwyd

Carl Langley a Samantha Gainard
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod dirprwy brif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn cael perthynas gyda phennaeth gwasanaethau cyfreithiol y llu.
Dywedodd llefarydd fod Carl Langley wedi ei symud o'i swydd "dros dro."
Yn y cyfamser, mae'r cyfarwyddwr cyfreithiol, Samantha Gainard, yn parhau yn ei swydd.
Fe fydd yr ymchwiliad yn penderfynu a oes yna "oblygiadau" yn codi o ran effaith ar y llu.
Cafodd y mater ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gan Heddlu Dyfed Powys.
Penderfynodd y Comisiwn fod yr heddlu yn gallu cynnal ymchwiliad eu hunain i'r mater.
Mae pennaeth heddlu West Mercia, David Shaw, wedi ei benodi i arwain yr ymchwiliad.