BBC Cymru Fyw

Marw o ganlyniad i waed wedi ei heintio â hpatitis C

Published
image copyrightWales News Service
image captionJohn Jones a'i wraig Karisa

Clywodd cwest fod tad i dri o ardal Pontardawe wedi marw 20 mlynedd ar ôl iddo dderbyn trallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.

Fe wnaeth John Jones, 50 oed, o'r Rhos, dderbyn 16 peint yn Ysbyty Treforys ar ôl colli ei goes mewn damwain beirianyddol yn 1990.

Ond roedd un o'r rhai oedd wedi rhoi gwaed â hepatitis C, a bu farw Mr Jones yn 2012.

Cafodd rheithfarn naratif ei chofnodi gan y Crwner Paul Bennett, gan ddweud fod Mr Jones wedi marw o ganlyniad i heintio a sirosis.

Dywedodd Dr Stephen Field, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Gwaed Cymru, ei fod yn ymestyn ei gydymdeimlad dwys i deulu Mr Jones.

Dywedodd ar y pryd pan gafodd Mr Jones trallwysiad gwaed doedd dim profion ar gael ar gyfer hepatitis C.

Cafodd profion o'r fath eu cyflwyno drwy'r DU, flwyddyn ar ôl ei lawdriniaeth.