Marwolaeth Cymraes yn Laos yn ddamweiniol

Johanna Powell Image copyright Facebook
Image caption Roedd Johanna Powell ar ei gwyliau yn Laos

Mae cwest yn Aberdâr wedi clywed bod menyw 37 oed o Gaerdydd wedi marw ar ôl i gwch suddo ar daith ar afon yn Laos, de-ddwyrain Asia.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei chofnodi yn achos Johanna Powell fu farw ar Afon Mekong ger Pak Beng ym mis Ebrill.

Roedd y golygydd lluniau gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd yn teithio gyda thri ffrind o Gymru a saith o bobl eraill.

Doedd yr afon ddim yn llonydd oherwydd tywydd mawr pan aeth y cwch i drafferthion.

Clywodd y cwest ei bod yn debygol fod Ms Powell yn cysgu ar y pryd a bod y cwch wedi suddo o fewn eiliadau.

Deuddydd

Cafwyd hyd i'w chorff yn yr afon ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd Ms Powell ar wyliau tair wythnos ac ar ail ddiwrnod taith cwch ar yr afon.

Cafodd datganiadau gan dystion eu darllen yn ystod y gwrandawiad.

Dywedodd Kate Ridler i gadeiriau a byrddau gael eu taflu i bob man wrth i'r cwch droi drosodd.

"Fe wnes i ddringo i'r to ond fe suddodd y cwch o fewn eiliadau," meddai.

Dywedodd tyst arall, Steven Wall, i'r cwch suddo o fewn 10 eiliad.

'Sgrechen am help'

Roedd Tanny Evans yn un o gyfeillion Ms Powell ar y gwyliau a dywedodd eu bod wedi mynd i gysgu ar fwrdd y cwch.

"Roedd pen Johanna ar y bwrdd ac roedd hi'n cysgu.

"Wedyn roedd fy mhen o dan y dŵr ac roeddwn i'n ymladd am fy mywyd. Roedd y cerrynt yn fy llusgo a dwi'n cofio gweiddi 'Ble ma' Johanna?' ac roeddwn yn clywed pobl eraill yn sgrechen am help."

Penderfynodd y crwner fod Ms Powell wedi boddi o ganlyniad i ddamwain.

Straeon perthnasol