Cymdeithas Llywodraeth Leol: 'Mwy o bŵer dros gyllid'?
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorau lleol wedi galw am ragor o ryddid a phŵer dros sut i wario eu cyllidebau.
Mae'r corff sy'n eu cynrychioli wedi dweud hefyd na ddylai bwytai na faniau tec-awê fod o fewn 400 medr i ysgolion.
Mae'r cynigion yn rhan o faniffesto Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar gyfer etholiad y cynulliad y flwyddyn nesa'.
Mae'r sefydliad yn dweud y dylid gwario'r arian sy'n dod i law drwy'r ffi o 5c am fagiau plastig ar wasanaethau rheng-flaen - gan lenwi bwlch o oddeutu £22m.
Erbyn 2020, mae WLGA yn darogan y bydd gan gynghorau fwlch o £941m yn eu cyllidebau.
Gwasanaethau iechyd cyhoeddus
Dylai cynghorau fod yn gyfrifol am wasanaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, yn ôl y ddogfen.
Yn rhan o hynny, mae WLGA yn cefnogi cynllun i wahardd cyfleusterau bwyd tec-awê - fel faniau - rhag bod o fewn 400 medr i ysgolion.
Mae'r gymdeithas hefyd yn galw am gronfa newydd i gadw pobl yn iach, er mwyn bod llai yn mynd i'r ysbyty.
Byddai'r gronfa'n cael ei hariannu gan fuddsoddiad sy'n ddyledus i Lywodraeth Cymru wrth i Lywodraeth y DU gynyddu buddsoddiad i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Dywedodd arweinydd WLGA, Bob Wellington ei bod yn glir nad ydi'r drefn bresennol yn gweithio, a bod angen i Lywodraeth Cymru "ymddiried yn yr awdurdodau lleol i weithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ateb gwell".