Luke Charteris yn arwyddo i Gaerfaddon o Racing 92
- Cyhoeddwyd

Mae clo Cymru Luke Charteris wedi arwyddo i Gaerfaddon o Racing 92 ar gytundeb tair blynedd.
Mae ei gytundeb yn dod i ben gyda'r clwb o Baris ar ddiwedd tymor 2015-16, a bydd yn ymuno â'r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl hynny.
Gadawodd Charteris, 32 oed, y Dreigiau i fynd i Perpignan yn 2012, cyn arwyddo gyda Racing 92 yn 2014.
"Mae'n glwb mor uchelgeisiol, ac mae ymuno â'r awyrgylch yna'n grêt," meddai.
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Caerfaddon, Mike Ford: "Mae Luke wedi bod yn un o sêr ail-reng Cymru yn ddiweddar, a bu'n perfformio'n dda yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
"Ry'n ni wrth ein bodd o gael un o chwaraewyr ail-reng gorau'r byd yn ymuno â'r clwb."