Cwest: Milwr 'wedi blino ac yn dioddef' yn ystod cosb

  • Cyhoeddwyd
Gavin WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Preifat Gavin Williams yn aelod o'r Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol

Clywodd cwest fod milwr fu farw o orboethi yn edrych "wedi blino ac yn dioddef" wrth iddo dderbyn cosb answyddogol mewn barics yn ne Lloegr.

Bu farw Preifat Gavin Williams, 22 o Hengoed, Sir Caerffili, ar ôl i'w galon fethu ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire.

Roedd yr aelod o'r Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol wedi ei orfodi i wneud ymarfer corff dwys fel cosb am gamymddwyn.

Dywedodd Preifat Gareth Davies, oedd yn dyst i'r gosb, fod ei gyd-filwr "wedi ymlâdd."

'Anadlu'n ddwfn'

Gwelodd Preifat Davies ddau uwch swyddog, y Sarjant Russell Price a'r Corporal John Edwards, yn gorfodi Preifat Williams i fartsio'n gyflym.

"Siŵr ei fod yn martsio bum gwaith yn gynt na'r arfer," meddai.

Dywedodd ei fod wedi dal llygaid Preifat Williams wrth iddo fartsio.

"Roedd wyneb Gavin yn chwysu lot, fe allech chi weld yn hawdd y chwys yn mynd lawr ei ochrau'i fochau," meddai.

"Roedd e'n edrych wedi blino, roedd o wedi ymlâdd. Roedd cadw'r cyflymder yn anodd iddo, roeddwn yn gweld ei fod yn anadlu'n dwfn.

"Roeddwn yn gweld o'i wyneb ei fod wedi blino ac yn dioddef."

Clywodd y llys hefyd fod y math yma o gosb yn "yn rhan o fywyd yn y fyddin."

"I mi, mae'r term beasting yn golygu'ch bod chi am gael eich brifo unai drwy ddril neu ymarfer corff," meddai Preifat Davies.

'Cau dy geg'

Mewn datganiad, dywedodd y Sarjant Geraint Evans, oedd yn rhan o Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol gyda Preifat Williams, ei fod wedi gweld Preifat Williams heb ei gap tu allan i'r gampfa gyda Sarjant Price.

"Meddyliais wrth fy hun 'mae e mewn trwbwl'. Fe glywais Preifat Williams yn dweud rhywbeth fel 'wna i ddim gwneud mwy, rwy'n teimlo'n sâl.'"

"Sylwais fod herfeiddiwch yn ei lais.

"Wedyn trodd Sarjant Price at Preifat Williams a dweud 'cau dy geg.'"

Mae'r cwest yn parhau.