Rygbi yng Nghymru: 'Cyffuriau'n gyffredin'

  • Cyhoeddwyd
profion cyffuriauFfynhonnell y llun, AP

Mae traean athletwyr Prydain sydd wedi'u gwahardd oherwydd cyffuriau yn chwaraewyr rygbi o Gymru, yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf UK Anti-Doping mae 34% o'r bobl ym myd y campau sydd wedi'u gwahardd yn chwaraewyr rygbi o Gymru.

Mae rhaglen Week In Week Out BBC Cymru wedi siarad gyda chyn-chwaraewr ar lefel lled-broffesiynol sy'n cyfadde' defnyddio cyffuriau yn y gorffennol.

Ni chafodd ei ddal, ond mae'n dweud bod camddefnyddio steroidau mewn rygbi yn gyffredin.

'Gwahardd lot mwy'

Dywedodd y chwaraewr, sydd am aros yn ddienw: "Mae e ym mhobman. Rwy'n credu bod pobl mwy na thebyg yn ddall i'r peth, ond os ddaw'r gwir allan fe fyddai lot mwy yn cael eu gwahardd rhag chwarae."

Er bod y nifer sydd wedi cael eu dal yn ganran fechan o'r miloedd sy'n chwarae rygbi, mae 17 chwaraewr rygbi (undeb a 13) o lefel amatur i led-broffesiynol wedi'u gwahardd ar hyn o bryd, gyda'r mwyafrif wedi eu dal gydag olion o steroidau anabolig yn eu cyrff.

Yn rygbi'r undeb mae 10 chwarae o Gymru wedi'u gwahardd allan o'r 16 sydd ar restr genedlaethol UK Anti-Doping.

Yn rygbi 13, chwaraewyr o Gymru yw hanner yr 14 chwaraewr sydd wedi'u gwahardd ar hyn o bryd ym Mhrydain.

Brwydr barhaus

Fe wnaeth Week In Week Out holi 100 o chwaraewyr rygbi'r undeb o'r clybiau ar lawr gwlad, a chanfod bod 15 wedi cyfadde' defnyddio rhyw fath o gyffur i wella'u perfformiad.

Dim ond pump o'r 100 ddywedodd eu bod wedi cael prawf cyffuriau dros y tair blynedd diwethaf.

Cyfaddefodd pennaeth UK Anti-Doping, Nicole Sapstead, ei bod yn frwydr barhaus i ddal y rhai sy'n twyllo:

"Dwi'n credu os ydi pobl am dwyllo'r system fe wnawn nhw ddod o hyd i ffordd o wneud hynny.

"Mae angen ymchwil parhaus nid yn unig i'r ochr wyddonol o'r cyffuriau, ond i pam fod athletwyr yn gwneud y dewisiadau y maen nhw'n gwneud.

"Mewn byd delfrydol fe fydden ni'n profi chwaraewyr drwy'r amser, ond dyw hynny ddim yn realiti i unrhyw gorff gwrthgyffuriau yn y byd. Mae'n fater o fod yn effeithlon gyda'r adnoddau sydd gennym."

'Mae un yn ormod'

Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd Owen Morgan o glwb Merthyr Tudful waharddiad am bedair blynedd, a Greg Roberts o glwb Glyn-nedd am ddwy flynedd.

Fe brofodd Morgan yn bositif am y steroid drostanolone a benzoylecgonine tra bod Roberts wedi profi'n bositif am tamoxifen, sy'n gallu cael ei ddefnyddio i drin canser.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: "Fyddwn i ddim yn dweud nad yw hyn yn bwysig mewn rygbi oherwydd mae gweld un chwaraewr wedi'i wahardd yn ormod yn fy marn i.

"Yr her i ni - nid mewn rygbi yn unig ond mewn chwaraeon yn gyffredinol - yw cael gwared â hyn o'r gêm, a dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n hawdd.

"Mae'r ffaith bod pobl wedi eu dal yn awgrymu bod problem. Fy ngwaith i yw mynd at wraidd y mater a sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddileu'r broblem."

'Week In Week Out: Rugby's Dirty Steroid Secret?', nos Fawrth, 24 Tachwedd, BBC One Wales am 22:35.