Disgwyl cynlluniau cynghorau Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i fwy o fanylion am sut y bydd cynghorau yn cael eu uno ar draws Cymru gael eu datgelu ddydd Mawrth.
Mae Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i ostwng nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw.
Bydd y cynigion yn cynnig dod â'r cynghorau mwy o faint yn ôl, yn debyg i'r trefniant cyn 1996.
Fe fydd Mr Andrews yn cyhoeddi Mesur Drafft Llywodraeth Leol Cymru ddydd Mawrth, ond ni fydd yn dod yn ddeddfwriaeth cyn etholiad y cynulliad fis Mai nesaf.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, yn ogystal â rhai arweinwyr cynghorau Llafur, a chyn-weinidog Llafur.
Y cynnig?
Byddai sir Ddyfed yn dod yn ôl, drwy ail-uno Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, a Gorllewin Morgannwg yn dychwelyd drwy uno Abertawe gyda Chastell-nedd Port Talbot.
Byddai Caerdydd yn uno â Bro Morgannwg, ac fe fyddai Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy yn uno i greu cyngor mwyaf Cymru, gyda phoblogaeth o bron i 600,000.
Byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Yn y model wyth-cyngor, byddai Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn uno, ac fe fyddai Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint yn uno.
Y dewis arall ydi gweld Conwy a Sir Ddinbych yn uno.