Llyn Padarn: Bygythiad i bysgodyn prin
- Cyhoeddwyd

Mae adolygiad barnwrol wedi clywed bod un o lynnoedd amlycaf gogledd Cymru o dan fygythiad oherwydd difrod amgylcheddol.
Yn ôl pysgotwyr lleol, mae gwagio carthion amrwd ac wedi'u trin i Lyn Padarn (ger Llanberis) gan Dŵr Cymru yn bygwth dyfodol y torgoch, pysgodyn prin sy'n byw yn y llyn.
Mae Cymdeithas Bysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni yn cael eu cynrychioli yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon gan Fish Legal - corff sy'n cynrychioli cymdeithasau pysgotwyr yn gyffredinol.
Honni y maen nhw nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud digon i warchod y pysgod.
Hefyd maen nhw'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu gweithredu cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn gywir.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara am ddau ddiwrnod.