Cau'r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd dros dro

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn

Fydd cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ddim ar agor i'r cyhoedd am gyfnod oherwydd gwaith gwarchod a datblygu.

Ond mae 'na gyfle i bobl ymweld â'r Ysgwrn yn ystod diwrnod agored ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd.

Yna bydd y ganolfan ynghau "am gyfnod amhenodol" o ddydd Llun, 30 Tachwedd, ymlaen.

Fe ddywedodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fod rhan o'r gwaith wedi dechrau eisoes "ond erbyn hyn, oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, ni fydd hi'n bosib i'r cyhoedd ymweld â'r Ysgwrn".

'Cyfle i esbonio'

Dywedodd Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn: "Bydd y Diwrnod Agored yn gyfle i ni esbonio beth sy'n digwydd ar y safle dros y misoedd nesaf, gan gynnwys adfer y cwt mochyn, gosod seiliau i'r boilar biomas a chodi sied amaethyddol newydd gyda tho gwair.

"Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd gwaith adnewyddu'r tŷ ei hun yn cychwyn yn ogystal ag adnewyddu rhai o'r adeiladau eraill ar y safle, gan gynnwys y Beudy Tŷ a throi'r Beudy Llwyd yn adeilad croeso.

"Hefyd bydd maes parcio newydd yn cael ei osod, waliau cerrig yn cael eu trwsio, gerddi'n cael eu hadfer a gwaith llwybrau ac amgylcheddol yn cael ei orffen.

"Yn anffodus, golyga hyn na fydd mynediad i'r cyhoedd i'r Ysgwrn o Dachwedd 30 ymlaen hyd ail agor y safle yn ystod y Gwanwyn 2017.

"Felly mae mynychu'r Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ymweld â'r safle yn ei ffurf bresennol cyn i'r gwaith datblygu ddechrau."

Rhannu hanesion

Fe ychwanegodd yr awdurdod fod bwriad i barhau i rannu straeon a hanesion Hedd Wyn a'r Ysgwrn ym Mhlas Tan-y-bwlch.

Yno mae arddangosfa sy'n helpu'r awdurdod i ddehongli negeseuon Yr Ysgwrn tra bod gwaith yn digwydd ar y safle yn Nhrawsfynydd.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys replica o'r Gadair Ddu a gwblhawyd drwy ddefnyddio technoleg argraffu 3D.