Heddwas yn gwadu cael gwared â llyfrau nodiadau

  • Cyhoeddwyd
Mae achos Michael Stokes a Stephen Phillips yn parhauFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae achos Michael Stokes a Stephen Phillips yn parhau

Mae heddwas wedi gwadu difetha ei lyfrau nodiadau wedi i'w gyd-weithiwr gael ei gyhuddo o ddwyn arian gafodd ei ddarganfod yn ystod cyrch cyffuriau yn ardal Abertawe.

Mae'r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 oed o Lyn-nedd, yn parhau i roi tystiolaeth i'r achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe ddywedodd yr erlynydd wrth y rheithgor nad oedd modd dod o hyd i lyfrau nodiadau Mr Stokes yn ei swyddfa.

Gofynnodd Peter Griffiths QC: "Wnaethoch chi gael gwared â'r llyfrau nodiadau wedi i chi glywed fod Phillips wedi ei arestio, er mwyn peidio cael eich cysylltu â throsedd?"

Meddai Mr Stokes: "Dyw hynny ddim yn wir."

Mae wedi pledio'n ddi-euog i dri chyhuddiad o ddwyn.

Mae ei gyd-ddiffynnydd, y cyn Dditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, wedi pledio'n ddi-euog i ddau gyhuddiad o ddwyn.

Mae'r achos yn eu herbyn yn parhau.