BBC Cymru Fyw

Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth

Published
image copyrightGoogle
image captionCafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Tŷ Trem-y-cwm yn Y Beddau ddydd Mawrth
Mae'r heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth wedi i olion dynol gael eu darganfod ger bloc o fflatiau brynhawn Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Tŷ Trem-y-cwm yn Y Beddau ger Llantrisant am 13:00.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley: "Mae'r farwolaeth yn amheus.
"Y flaenoriaeth i ni yw adnabod y corff a darganfod sut y bu farw'r unigolyn.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n siarad ag unrhywun allai gynnig gwybodaeth i ni."
Cafodd yr ardal ei chau a bydd post mortem yn cael ei gynnal. Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.