Trafod dwyieithrwydd

  • Cyhoeddwyd
arwydd
Disgrifiad o’r llun,
I ba gyfeiriad mae dwyieithrwydd yn mynd?

Cafodd cyngor cymuned o Sir Ddinbych ei feirniadu'n hallt am ddarparu agendâu a dogfennau yn uniaith Gymraeg yr wythnos hon.

Roedd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn dadlau fod Cyngor Cymuned Cynwyd yn rhoi siaradwyr Saesneg yr ardal o dan anfantais.

Felly beth yw gwerth dwyieithrwydd yn ymarferol, a pha mor llesol ydy o i'r Gymraeg? Dyna ofynnodd Cymru Fyw i'r rhai sy'n cefnogi naill ochr y ddadl:

Aneirin Karadog, cyn Fardd Plant Cymru

"Dwi'n meddwl fod dwyieithrwydd yn bwysig ond pan mae pobl yn dweud fod dwyieithrwydd yn bwysig, mae'n anodd gwybod o ba ochr maen nhw'n dod.

"Dwi hefyd yn meddwl bod unieithrwydd yn bwysig lle bo'n briodol. Dyw hi ddim yn neud synnwyr, er enghraifft, i bapurau bro orfod dwyieithogi eu hunen os oes ganddyn nhw gynulleidfa Gymraeg.

"Ac os yw cyfarfodydd yn cael eu cynnal i gymuned sy'n hollol Gymraeg i bob pwrpas, dylai'r Gymraeg fod yn brif iaith a dylai fod yna ymdrechion i gyfieithu ar y pryd. Dwi'm yn derbyn y ddadl bod hi'n costio lot.

"O'dd yr ombwdsman yn trafod y ddeddfwriaeth yn 1993 a 2011 - beth yw heina yw deddfau o blaid y Gymraeg a nid o blaid dwyieithrwydd felly dwi'n meddwl mai'r peryg efo dwyieithrwydd yw ei fod e'n glastwreiddio [y Gymraeg] yn y pen draw.

"Yn Iwerddon maen nhw'n siarad lot mwy am ddwyieithrwydd am bod eu hiaith nhw wedi ei lastwreiddio a bod 'na blygu i'r Saesneg. Dwi'n meddwl bod angen cynnal yr amodau ar gyfer ffyniant yr iaith yn naturiol ac yn unieithyddol lle bo hynny'n briodol.

"Ond wrth gwrs nage pwrpas dieithrio yw hyn - mae'r Gymraeg yn gallu helpu i atal y teimlad o ddieithrio - trwy iaith mae pobl yn gallu dod i berthyn ac felly mae angen annog dysgu a rhoi y cyfleon a'r amodau i ddarparu yr anghenion cyfieithu ar y pryd os oes angen ac i ddarparu dogfennau ac ati.

"Ma' pobl sy'n siarad Gwyddeleg yn cael eu hystyried yn ddwyieithog yn hytrach na rhai sy'n siarad Gwyddeleg. 'Ni heb gyrraedd y pwynt yna diolch byth yng Nghymru, mae 'na dal fynd ac ymfalchïo mewn cynnal digwyddiadau yn Gymraeg.

"O'n i yn Cork yn ddiweddar fel mae'n digwydd ac maen nhw'n cael wyth digwyddiad Gwyddelig barddoniaeth, ond fod rheiny yn rhai dwyieithog felly does dim digwyddiad sy'n uniaith Wyddeleg.

"Ac yn Llydaw dwi'n gwbod fod yna gyfarfodydd plwy sy' wedi cael gorchymyn i beidio defnyddio'r Llydaweg, er bod pawb yn gallu siarad Llydaweg ar y pwyllgor - bod rhaid iddyn nhw fod yn Ffrangeg. Felly dwi'n meddwl ein bod ni'n fwy ffodus bod doctrine fel yna ddim yn cael ei wthio arnom ni.

"Fydden ni ddim yn licio meddwl bod pobl yn mynd yn nerfys rhag defnyddio'r Gymraeg nawr rhag ofn ca'l eu ceryddu."

Daniel Glyn, digrifwr

"Dwi o'r farn ddylie ni ddim bod yn siarad am Gymry di-Gymraeg ac yn y blaen, dylie ni fod yn pwsho pawb naill ai yn ddwyieithog neu gyda ymwybyddiaeth o ddwyieithogrwydd.

"Ma'r term 'Cymry di-Gymraeg' ei hun yn afiach. Dwi'n gwbod mai sôn am yr iaith ma' nhw, ond mae e'n beth mor negyddol i alw rhywun sy' methu siarad Cymraeg.

"Be' dwi'n feddwl yn bersonol sy' isie yw 'chydig bach o common sense. Dwi'n dod o gefndir lle dwyt ti ddim yn siarad Cymraeg o flaen pobl sy' ddim yn siarad Cymraeg achos mae'n rude. Yn yr un ffordd mae unrhyw un sy'n sarnu ar yr iaith Gymraeg yr un mor rude.

"Dwi isie gweld Cymru lle mae pawb yn ddwyieithog. Dwi'm yn meddwl dylie 'na fod ysgolion Cymraeg a di-Gymraeg - mae nifer yn popio fyny sy'n ddwyieithog fel sy' yng Ngwaelod y Garth (Caerdydd) nawr. Hwnna yw'r ffordd ymlaen ar gyfer addysg yng Nghymru ac ar gyfer yr iaith hefyd.

"Mae gormod o bobl ar y funud yn defnyddio'r iaith fel arf naill ai yn erbyn pobl sy' methu siarad neu pigo ar y ffaith bod e'n costio i 'neud bob dim. Be' ma'r cyngor yma yn Ninbych yn 'neud drwy peidio cael stwff yn ddwyieithog yw codi stŵr.

"Dwi'n credu bod isie i bobl fyw yn y byd real, ac y byd real yw Cymru dwyiethog - dyna be ddylse ni fod, a dyna dwi'n ymladd i drio wneud. Er enghraifft, dwi'n ddwyieithog, dwi'n siarad Cymraeg a Saesneg, weithie ar yr un pryd, siarad 'hanner and half' - ma'n un o'r pethe mwya' naturiol yn y byd!"

Beth yw eich barn chi ar ddwyieithrwydd? Ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu gysylltwch ar Twitter @BBCCymruFyw